Ysgol Gyfun Ystalyfera
| Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur | |
|---|---|
| Ysgol Gymraeg Ystalyfera | |
![]() | |
Arwyddair | Dysgu Gorau Dysgu Byw |
Sefydlwyd | 1969 Ysgol Gyfun Ystalyfera 2017 Ysgol Gymraeg Ystalyfera |
| Math | Ysgol pob oed 3-18 |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mr Matthew H. T. Evans |
Cadeirydd | Cyng Alun Llywelyn |
| Lleoliad | Glan yr Afon, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, Cymru, SA9 2JJ |
AALl | Castell-nedd Port Talbot |
| Disgyblion | tua 1300 |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 3–18 |
| Llysoedd | Gwenllian, Hywel, Llywelyn |
Lliwiau | Glas a du (du ar gyfer y chweched ddosbarth) |
Gwefan | www.ysgolgyfunystalyfera.co.uk |
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg oedd Ysgol Gyfun Ystalyfera. Fe'i lleolir wrth ymyl afon Twrch yn Ystalyfera, tua 18 milltir i'r gogledd o Abertawe. Mae'r ysgol yn adnabyddus am ei llwyddiannau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, yn ogystal â'r academaidd. Mr Matthew Evans yw Pennaeth yr Ysgol.
Yn Medi 2017 trawsnewidiodd yr ysgol yn ysgol pob oed drwy ymuno a Ysgol Gynradd Gymraeg Y Wern, ac o Fehefin 2018 bydd y ddwy adran ar yr un campws ym mhentref Ystalyfera. Yn Medi 2018, bydd safle yn ne'r sir yn agor gyda disgyblion o ysgolion cynradd Cymaeg Rhosafan, Tyle'r Ynn a Chastell-nedd yn mynychu, Ysgol Gymraeg Bro Dur.
Hanes |
Sefydlwyd yr ysgol ym 1969, tra'n rhannu safle a staff ag Ysgol Sir Ystalyfera, a sefydlwyd yn 1896, yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Roedd dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Faesteg yn y de-ddwyrain i Benrhyn Gŵyr yn y de cyn i ysgolion Llanhari ac Ysgol Gyfun Gŵyr agor. Tan ddiwedd y 1990au, bu Ysgolion Ystalyfera a Gŵyr yn rhannu chweched dosbarth ar safle Ystalyfera. Enw'r chweched dosbarth yw 'Canolfan Gwenallt', er clod i'r prifardd D. Gwenallt Jones (1899-1968), a fynychodd yr Ysgol Sir yno.
Mae dalgylch presennol yr ysgol yn rhannu ffiniau ag awdurdod unedol Castell-Nedd Port Talbot, gyda nifer o ddisbylion o Aber-crâf ac Ystradgynlais yn ne-orllewin sir Powys hefyd yn mynychu'r ysgol.
Fel ysgol benodedig Gymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg y mae'r mwyafrif o'r gwersi'n cael eu cynnal, er bod modd dilyn rhai pynciau drwy gyfrwng y Saesneg.
Cyn-ddisgyblion o nôd |
- Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera
Alun Cairns AC - gwleidydd Ceidwadol
Huw Chiswell - cerddor, cantor, ac actor- Jeremy Miles AC - Cwnsler Cyffredinol LlC a AC Castell-nedd
D. J. 'Gwenallt' Jones - prifardd a darlithydd (Ysgol Sir Ystalyfera)
Derwyn Jones - cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol
Lyn Jones - cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a chyn-hyfforddwr y Gweilch
Euros Lyn - cyfarwyddwr teledu
Siân Lloyd - darlledwraig- Y Parchedicusaf Barry Morgan - Archesgob Cymru (Ysgol Sir Ystalyfera)
Garry Owen - darlledwr
Rhodri Owen - darlledwr
Steffan Rhodri - actor
Ben Davies - chwaraewr pêl-droed
Gareth Bale - actor
Fflur Wyn - cantores glasurol
Dolenni allanol |
- Gwefan yr ysgol


Comments
Post a Comment